Past event!
This event has already taken place.
Find all current events for this promoter here.
| 0 | DENBIGH: Theatr Twm o'r Nant |
|---|---|
| P | Wednesday 7th August, 2013 |
| N | 7:30pm |
Cyfaill - Drama newydd sbon gan FRANCESA RHYDDERCH
Archwilia’r ddrama deimladwy hon un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gŵr, Morris, yn annhymig o alcoholiaeth. Gwelwn sut y mae ymddangosiad sydyn ymwelydd afieithus, bengaled ac ymhongar o Hwngari - Daisy Wagner - yn cymell Kate i’w chodi ei hun o ddyfnderoedd ei galar ac wynebu bywyd unwaith eto. A tybed ai’r ferch ifanc hon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o greadigaethau mwyaf lliwgar yr awdures - Winni Ffini Hadog?
a hefyd
Te Yn Y Grug - Addasiad newydd gan MANON WYN WILLIAMS o un o hoff lyfrau ‘Brenhines ein Llên’.
Llwyfaniad syml, agos-atoch fydd hwn, yn seiliedig ar y straeon sydd yn y nofel - straeon am dyfu i fyny, am golli diniweidrwydd, am blentyn yn ceisio deall cymhlethdod y byd a’i bobl, ac am dderbyn bod dadrithiad yn rhan o fywyd. Mae’r llyfr yn fytholwyrdd ac yn rhan annatod o gwricwlwm addysg ein hysgolion.
| 0 | Station Road Denbigh LL16 3DA |
|---|---|
| > | www.theatrbaracaws.com |
| ! | 01286675869012866763 |